Ymweliad Rapporteur y Pwyllgor Deisebau ag Uned Dialysis Arennol Gogledd Caerdydd

 

24 Mai 2012

 

Yn bresennol:

·         Bethan Jenkins AC

·         Russell George AC

·         Julie Morgan AC

·         Robert Kendrick, prif ddeisebydd

·         Andrea Richards, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

·         Richard Parry, B Braun

·         Deana Webber, B Braun

·         Abigail Phillips, Clerc y Pwyllgor Deisebau

·         Sarita Marshall, Dirprwy Glerc y Pwyllgor Deisebau

·         Annette Millett, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Deisebau

 

Cefndir:

Cafodd y Pwyllgor ddeiseb yn galw am uned arennol newydd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym mis Tachwedd 2011. Cyflwynwyd y ddeiseb gan glaf arennol ac roedd wedi casglu oddeutu 1,150 o lofnodion. Mae geiriad y ddeiseb fel a ganlyn:

 

Deiseb yn galw am uned arennol newydd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful

Cafodd yr uned bresennol ei hadeiladu ym 1989 i drin 16 claf yr wythnos, ond mae’r nifer hwnnw bellach wedi codi i 52. Gyda nifer y cleifion arennol yn cynyddu’n flynyddol, rydym yn credu ei bod yn bwysig adeiladu uned newydd yn awr er mwyn ymdopi â’r cynnydd hwn. Byddai uned newydd hefyd yn golygu y gellid trin cleifion arennol sydd ond angen mân-driniaethau, yn yr uned, yn hytrach na’u trosglwyddo i ysbytai eraill sydd angen y gwelyau.

 

Dyma rai yn unig o’r problemau sydd gennym yn yr uned bresennol:

 

1. Diffyg ardal ynysu (a allai arwain at groes-heintio)

2. Un toiled yn unig i gleifion gwrywaidd a benywaidd

3. Ardal aros gyfyng

4. Aerdymheru gwael

5. Mae’r uned wedi dioddef llifogydd ar sawl achlysur.

 

Aeth yr Aelodau ar ymweliad ag uned arennol Ysbyty’r Tywysog Siarl ym mis Ionawr 2012, a buont yn siarad â staff a chleifion ynghylch yr amodau yno. Disgrifiodd y cleifion rai o’r problemau a gafwyd yn yr uned, sydd wedi’i lleoli mewn caban allanol (yr oedd disgwyl iddo bara am saith mlynedd), ers 1989. Roedd y problemau’n cynnwys diffyg ardal ynysu; llifogydd; lleithder; aerdymheru gwael sy’n peri bod cleifion yn oeri; a’r ffaith mai un toiled yn unig sydd ar gyfer yr holl gleifion a staff.

 

Dywedodd cleifion a staff wrth yr Aelodau yr hoffent gael uned fodern, fel yr un ym Mhentwyn, Caerdydd, ym Merthyr. Mae uned Caerdydd mewn parc diwydiannol, oddi allan i safle Ysbyty Athrofaol Cymru. Felly, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r uned honno i drafod manteision ac anfanteision y model hwn sydd oddi allan i’r safle, â chleifion a staff.

 

Yr Uned Dialysis Arennol yng Nghaerdydd:

Roedd digon o le yn yr ardal driniaeth yn yr uned yng Nghaerdydd o gymharu â’r uned ym Merthyr, gyda digon o le rhwng y gwelyau i’r staff nyrsio drin y cleifion. Roedd yr ardal aros yn yr uned yng Nghaerdydd oddeutu’r un faint â’r uned gyfan ym Merthyr. Roedd dwy ystafell ymgynghori hefyd; ym Merthyr, bydd ymgynghoriadau’n cael eu cynnal mewn lle a ddefnyddir hefyd ar gyfer storio. Roedd yr ardal driniaeth yn agored a golau. Roedd man glân ar gyfer paratoi meddyginiaethau, yn ogystal ag ardal ynysu ar gyfer y rhai sydd â salwch heintus fel ‘ffliw’. Fodd bynnag, dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd meddyg ymgynghorol yn yr uned, ac mewn achosion brys, bod yn rhaid i staff ffonio 999, er mwyn i ambiwlans gludo’r cleifion i Ysbyty Athrofaol Cymru.

 

Gan y bydd y cleifion yn cael dialysis am rhwng 3.5 a 5 awr ar y tro, sawl gwaith yr wythnos, am weddill eu bywyd weithiau, mae pa mor gyfforddus ac ymarferol yw’r uned yn achosi pryderon. Yn yr uned yng Nghaerdydd, caiff pob claf ei deledu ei hun, a gallant ddewis gwylio, neu ddiffodd y teledu os byddant am gysgu. Dywedwyd wrth yr Aelodau, o bosibl y bydd cleifion yn dewis gwylio’r teledu i gael adloniant, oherwydd bod darllen yn anodd i gleifion ar adegau oherwydd yr amrywiadau yn eu pwysedd gwaed tra byddant yn cael dialysis.

 

Roedd Mrs Maureen O’Brian, sy’n aelod o’r fforwm cleifion, yn canmol y cyfleusterau yn yr uned fel rhai ‘rhagorol’, ond hyd yn oed gyda chyfleusterau rhagorol, bod dod i gael dialysis sawl gwaith yr wythnos yn feichus. Yr unig feirniadaeth a leisiwyd gan Mrs O’Brian oedd ynghylch y gwasanaeth cludiant, sy’n hwyr yn aml, ac sy’n ychwanegu at yr amser a gymer i gleifion gael eu trin.

 

Dywedodd Richard Parry o B Braun wrth yr Aelodau am y cyfarpar modern ar gyfer trin dŵr yn yr uned, sy’n cynhyrchu dŵr glân a ddefnyddir i lifolchi gwaed cleifion. Dywedwyd wrth yr Aelodau y gallai defnyddio dŵr o safon isel ar gyfer hyn fod yn angheuol. Dywedwyd wrthym nad oedd y cyfarpar trin dŵr yn yr uned ym Merthyr mor ddatblygedig â’r cyfarpar a ddefnyddir yn yr uned yng Nghaerdydd, oherwydd bod cost ei osod yn afresymol o uchel ar gyfer uned dros dro.

 

Uned Arennol Ysbyty’r Tywysog Siarl

Rheolir unedau Merthyr a Chaerdydd gan B Braun, ond nid yw gwaith adnewyddu uned Merthyr wedi’i gynnwys yn eu contractau saith mlynedd, gan fod bwriad wedi bod erioed i adeiladu uned newydd. Fodd bynnag, nid yw’r adeilad newydd a gynlluniwyd yn wreiddiol yn bosibl bellach, oherwydd y toriadau yn yr arian i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau yn ystod eu hymweliad ag uned Merthyr ym mis Ionawr, na fyddai lle ar gael yn adeiladau presennol yr ysbyty tan 2018, ac felly, bod opsiynau i ddatblygu uned oddi allan i’r safle gan drydydd parti, wedi’u nodi. Dywedodd Andrea Richards wrth yr Aelodau, fodd bynnag, nad oedd hwn yn opsiwn bellach, ac y byddai cynllun busnes arall ar gyfer uned ar safle’r ysbyty yn cael ei gyflwyno’n fuan.

 

Dywedodd y deisebydd, Robert Kendrick, wrthym nad oedd cleifion uned Merthyr wedi cael gwybod am ddim o’r datblygiadau hyn. Nid oedd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf, ychwaith, wedi trefnu i gyfarfod â’r cleifion i drafod cynigion, fel yr addawodd yn y cyfarfod ym mis Ionawr.

 

Gwasanaeth y Pwyllgorau
Mai 2012